Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Chwefror 2022
Amser:
09.31 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12607
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
John Cullinane, Sefydliad Siartredig Trethiant Lakshmi Narain, Sefydliad Siartredig Trethiant Frank Haskew, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr Glenn Collins, Cymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig y DU Richard Lloyd-Bithell, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Dyfed Alsop, Awdurdod Cyllid Cymru Sam Cairns, Awdurdod Cyllid Cymru Dave Matthews, Awdurdod Cyllid Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Charlotte Barbour (Cynghorwr Arbenigol) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.TV
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid - 21 Ionawr 2022
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â’r Bil Trethi: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - 24 Ionawr 2022
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: cyfalaf trafodiadau ariannol - 26 Ionawr 2022
2.4 PTN 4 - Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru 2020-21 - Ionawr 2022
3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Cullinane, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus, Sefydliad Siartredig Trethiant a Lakshmi Narain, Cadeirydd Pwyllgor Technegol Cymru’r Sefydliad Trethiant Siartredig ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
EGWYL (10.20-10.30)
4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Frank Haskew, Pennaeth Treth, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr; Richard Lloyd-Bithell, Uwch-reolwr Polisi a Thechnegol, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a Glenn Collins, Pennaeth Polisi, Ymgysylltiad Technegol a Strategol, Cymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig y DU ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
EGWYL (11.30-11.40)
5 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 4
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru; Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu, Awdurdod Cyllid Cymru; a Dave Matthews, Pennaeth Strategaeth Treth a Pholisi, Awdurdod Cyllid Cymru ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.